Profile
Blog
Photos
Videos
Wel helo unwaith eto! Mi yda ni erbyn hyn wedi gadael Zambia ac wedi croesi'r ffin i Malawi. Dyma'r drydedd wlad i ni fod ynddi-Zambia, Malawi a Botswana. Mi ydan ni wedi casglu nifer o stamps ar y pasbort erbyn hyn!.(I ddeud y gwir-mi ydw i ,Ffion wedi bod mewn pedair gwlad gan mod i wedi sefyll efo un droed yn Zimbabwe hefyd,er mi o'n i'n anghyfreithlon, felly peryg nad ydi hynny'n cyfri!!) Mae gennym ni wythnos reit braf o'n blaenau ni rwan i ymlacio yn Malawi. Mi ydan ni'n teithio am Afon Malawi mewn rhyw dridiau ac yn gobeithio gneud rhywfaint o weithgareddau wrth yr afon yno cyn hedfan o Lilongwe ddydd Sul nesaf. Mae'n annodd credu'n bod ni bron a chyrraedd diwedd y daith yma'n barod. Da ni'n clywed 'ch bod chi'n cael tywydd hyfryd acw ar hyn o bryd! Mae'r rhagolygon yn proffwydo y bydd y tywydd yn gwella erbyn pan fyddwn ni adra.
Wel, sgen i fawr ddim i'w ddeud rwan gan mai dim ond cysgu a theithio 'da ni wedi'i neud. O, a golchi dillad! Mae Kelly a finna'n edrych ymlaen yn arw at weld peiriant golchi eto!Tydi sebon a brwsh ddim run fath rhywsut!
Hwyl am y tro!
Ffion a Kelly.xx
- comments