Profile
Blog
Photos
Videos
Wel helo unwaith eto! Mi yda ni erbyn hyn bron a chyrraedd ein wythnos yma yn Zambia ac mae'r amser wedi hedfan. Mi gaethon ni wythnos reit galed wythnos yma-LOT o gerdded! a hynny yn y gwres tanbaid. Mi gaethon ni aros mewn llefydd prydferth iawn oedd yn hyfryd. Mi ydan ni yn mynd i Malawi fory i ymlacio wrth ymyl yr afon,gobeithio!Mae Kelly wedi cael lliw haul lyfli ond mae FfWJ run lliw ag oedd hi'n cyrraedd yma!wir yr!!wel,dipyn bach yn goch mewn ambell le! Mi ydan ni wedi gneud gymaint-'da ni methu cofio be!Mae;r ddwy ohonnom ni'n dal i edrych fel Bob Marley-da ni reit sicr y bydda ni'n dechra ffasiwn newydd yn ardal Amlwch pan ddown ni adra.
Croeso MAWR a sws ENFAWR i Aron Tomos gen i.xxx
Kelly'n deud helo wrth bawb!
Da ni am drio rhoi llunia rwan!
Ff & Kxx
- comments