Profile
Blog
Photos
Videos
Helo bawb! Mi 'da ni'n ymddiheuro mai rwan 'da ni'n sgwennu ar hwn am y tro cyntaf. Da' ni wedi gneud unwaith, ond mi ddiflanodd y cyfan i rhywle!
Mi gyrhaeddon ni yma'n saff a mewn un darn fore Sul d'wethaf-HEB FAGIAU! Felly, mi oeddan ni heb bebyll a sachau cysgu na dim am noson. Diolch i dduw, mi gaethon ni fenthyg gan y camsite. Noson ddi gwsg-'oedd hi'n oer iawn! Da ni wedi g'neud toman mewn wsos ers hynny- Safdfari deuddydd yn Chobe. ANHYGOEL. Gweld llwyth o anifeiliaid gwahanol, a hynny'n agos IAWN ar adegau! Mi roddodd un Crocodeil goblyn o sioc i Kelly wrth lithro i'r dwr ac o dan y gwch oeddan ni'n teithio ynddi ar y pryd! Da ni wedi bod yn gweld yr anhygoel Victoria Falls-mi oeddan ni'n wlyb socian! Da ni rwan yn dechrau arfer efo cysgu ar lawr caled mewn pebyll!!
Ma' Kelly a finna a chriw genod Syr Hugh wedi cael plethu'n gwallt! 'Da ni reit debyg i Bob Marley!
Reit-ma'r amser yn prysur basio. Am fynd rawn...geith Kelly sgwennu tro nesa! Lluniau i ddod yn fuan gobeithio!!
Hwyl,
FfWJ a Kelly
- comments