

Maroochydore / Brisbane, Queensland
Henffych well gyfeillion . . . dyma ni wedi neidio (boing boing) ymlaen at ardal arall. Wel, sawl ardal arall i fod yn fanwl gywir, ond dyma fi eto wedi mynd ar gyfeiliorn . . . . lle man siwr y bydde gwell gennych ddysgu am ein hantics!!!! Ac yn wir, mae dipyn mwy o antics i'w ddarllen nac yn y blog dwetha . . . .boed cael sgwrs am welsh cakes, bwydo Kangaroo, dysgu am fywyd carwriaethol koalas neu jyst chillio wrth ymyl traeth ffug yn brisbane . . . . . . .
B...